Mae cyfle i gael cyllid wedi cael ei lansio ar gyfer unigolion, busnesau neu sefydliadau sydd â syniadau am y canlynol:
- A ydych chi am wneud y gorau o asedau naturiol a diwylliannol yr ardal?
- A oes gennych chi syniadau arloesol y mae angen eu treialu, ymchwilio iddynt neu roi cynnig arnynt?
- A ydych chi am ddatblygu gwasanaethau sydd ar gael i drigolion y sir?
- A ydych chi am wneud y mwyaf o dechnoleg adnewyddadwy?
- A ydych chi’n teimlo bod y byd digidol yn eich gadael ar ôl?
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi llwyddo i sicrhau dros £3 miliwn i ddatblygu mentrau gwledig arloesol tan 2020 yng Ngheredigion. Mae Cynnal y Cardi yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â syniadau am brosiectau addas.
Esbonia John Davies, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu Lleol: “Gallwn ni gefnogi prosiectau peilot, cynnal astudiaethau dichonoldeb, cefnogi gweithgareddau mentora a hyfforddi yn ogystal â helpu i ddatblygu prosiectau gyda chymorth ein tîm arbennig o swyddogion. Mae’r gronfa yn ceisio annog ymatebion arloesol i’r cyfleoedd neu’r heriau a wynebir yn ein sir wledig.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cynnalycardi.org.uk. I gofrestru eich diddordeb cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01545 572063. Croesawir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.