Yn ddiweddar mae Canta, cwmni cyfathrebu Antur Teifi, wedi dod yn aelod o’r Sefydliad Ymgynghori ac mae aelodau’r tîm yn dilyn rhaglen er mwyn ennill Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae gwaith ymgynghori priodol yn ofyniad sy’n dod yn fwyfwy allweddol i gyrff cyhoeddus a’r sawl sy’n cyflawni contractau cyhoeddus.