Yn ddiweddar mae Canta, cwmni cyfathrebu Antur Teifi, wedi dod yn aelod o’r Sefydliad Ymgynghori ac mae aelodau’r tîm yn dilyn rhaglen er mwyn ennill Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae gwaith ymgynghori priodol yn ofyniad sy’n dod yn fwyfwy allweddol i gyrff cyhoeddus a’r sawl sy’n cyflawni contractau cyhoeddus. Bydd profiad Canta yn yr agwedd arbenigol hon ar gyfathrebu, yn cael ei wella drwy fod yn aelod o’r Sefydliad Ymgynghori sy’n ceisio sicrhau bod ei aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am arfer da newydd yn y maes.
Meddai Arwyn Davies, Cyfarwyddwr Cyfri Canta, “Mae’n bwysig i ni a’n cleientiaid ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith rheoleiddio a thechnegau ac arfer da ym maes ymgynghori. Rydym yn hyderus y bydd bod yn aelod o’r Sefydliad Ymgynghori yn fantais wrth i ni fynd ati i ddarparu gwasanaethau ymgynghori ystyrlon a phroffesiynol.”