Ym mis Tachwedd 2013 penodwyd Antur Teifi I ddarparu’r Gwasanaeth Benthyciadau Dechrau Busnes ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro. Erbyn hyn mae 40 o busnesau newydd ar draws y siroedd wedi llwyddo i sicrhau benthyciadau sydd wedi helpu eu busnesau I lwyddo.
Un o’r cwmnïau hynny yw Ickle Bubba. Gwelodd Ickle Bubba olau dydd ar y r union adeg pan ddaeth plentyn cyntaf Fran a Veronica Vaughan i’r byd yn 2011. Roedd chwilio am y pram hollbwysig yn brofi ad a newidiodd fywyd y pâr yn gyfan gwbl – a hynny cyn i’r babi gyrraedd hyd yn oed!
“Wrth accutane ddechrau chwilio am bram, cawsom sioc o weld pa mor ddrud oedden nhw,” meddai Fran. Penderfynodd y pâr ddylunio pram eu hunain – un a fyddai’n debyg i’r brandiau mwyaf blaenllaw ond a fyddai’n costio hanner y pris. Gyda help benthyciad gan Gynllun Benthyciadau Dechrau Busnes Llywodraeth y DU, crëwyd System DeithioGyflawn ‘Stomp’.
Meddai Fran, “Roedd Richard Jones, ein Hymgynghorydd Busnes, o gymorth mawr yn ystod y broses o gyflwyno cais. Roedd ei g yfraniad yn allweddol I lwyddiant y cais”. Mae’r busnes yn ychwanegiad arall sydd wedi cael croeso cynnes yn nheulu Fran a Veronica.