Mae Antur Cymru wedi ail-ddosbarthu gwariant partïon Nadolig eleni trwy roi arian a dodrefn i elusennau yn y cymunedau lle mae’n cyflawni cytundeb Busnes Cymru. Dyma’r sefydliadau a dderbyniodd cyfraniadau:
• Banc Bwyd De Gwynedd
• Golau Banc Bwyd Llandysul
• Banc Bwyd Caerfyrddin
• Uned Gymorth Cam-drin Domestig yn Nhinbych
Mae Antur Cymru yn asiantaeth fusnes o Gymru sy’n cefnogi economi fusnes Cymru, drwy cynnig cyngor busnes ifusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a phrosiectau adfywio canol tref. Gyda dros 40 mlynedd yn rhan o dirwedd fusnes Cymru, rydym yn darparu gwasanaeth cyngor Busnes Cymru yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru ynghyd ag ystod o wasanaethau ymgynghori masnachol ac arbenigol.
www.anturcymru.org.uk