Penodwyd Antur Cymru yn bartner cyflenwi ar gyfer Cynllun Kickstart sydd newydd ei lansio. Cyfle sy’n rholi lleoliad gwaith â thâl 6 mis y gall cyflogwyr lleol elwa hono. Mae cynllun y Llywodraeth yn ariannu lleoliadau am 25 awr yr wythnos i fusnesau cymwys ymgysylltu â phobl ifanc am gyfnod o 6 mis, gyda’r potensial i gadw’r gweithiwr yn y busnes.
Mae Antur Cymru wedi llwyddo i sicrhau rolau wedi’u hariannu’n llawn, gan alluogi llawer o fusnesau i recriwtio staff ychwanegol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y cynllun hwn, cysylltwch drwy ffonio nawr ar 01239 710238 a gofyn am Kickstart.
Ynglŷn â Antur Cymru
Mae Antur Cymru yn asiantaeth fusnes o Gymru sy’n cefnogi economi fusnes Cymru trwy gynnig cyngor busnes i fusnesau rhanbarthol a lleol, cymunedau gwledig a phrosiectau adfywio canol tref.
Gyda dros 40 mlynedd yn rhan o dirwedd fusnes Cymru, mae Antur Cymru yn darparu gwasanaeth cyngor Busnes Cymru yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru yn ogystal â chynnig ystod o wasanaethau ymgynghori masnachol ac arbenigol.
www.anturcymru.org.uk