Wedi’i threfnu gan Fenter Antur Cymru, bydd hyd at 80 o unigolion blaenllaw a myfyrwyr yn mynychu’r digwyddiad a gynhelir ar ddydd Iau, Hydref 20fed yng Nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin.
O dan gadeiryddiaeth Cefin Campbell, AS Canolbarth a Gorllewin Cymru, bydd y trafodaethau’n cynnwys entrepreneuriaeth pobl ifanc, Y Warant i Bobol ifanc, yr argyfwng recriwtio cenedlaethol a’r ‘hen ganfyddiadau yn erbyn y realiti’ er mwyn helpu pobol ifanc i baratoi ar gyfer bywyd gwaith sy’n addas i’r dyfodol.
Ymysg y siaradwyr bydd Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence, Emma Benger, Uwch Reolwr Cyflenwi Rhaglenni Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Llinos Price, Ymgynghorydd Busnes Syniadau Mawr Cymru, Llywydd a Chadeirydd y Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI), Carolyn Parry a Scott James, sylfeinydd Coaltown Coffee yn Rhydaman.
Bydd Bronwen Raine, Prif Weithredwr Antur Cymru, hefyd yn rhoi cyflwyniad wrth i’r sefydliad, sydd â’i bencadlys yng Nghastellnewydd Emlyn, ddathlu 45 mlynedd o gefnogi entrepreneuriaeth a hyfforddiant i unigolion a busnesau ar draws ardaloedd gwledig Cymru.
“Ry’ ni wrth ein bodd gyda’r siaradwyr gwych a fydd yn ymuno â ni yn y gynhadledd bwysig hon wrth i ni yng Nghymru– fel gweddill y DU – wynebu heriau amheuthun mewn nifer o sectorau” meddai.
“Mae yna gyfleoedd ar gael ac mae’n bwysig bod y bobol ifanc yn cael gwybod amdanynt. Trwy gydweithio ag ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion, gallwn ddangos y buddion iddynt o fedru helpu’r economi a hynny ar eu carreg drws eu hunain.
Yn ogystal â’r cyflwyniadau, cynhelir amryw o sesiynau trafod a cheir trafodaeth banel i gloi. Bydd cyfle i fynychwyr rannu o’u profiadau a rhoi barn ar sut i fynd i’r afael â’r materion dan sylw er budd y genhedlaeth nesaf.”
Bydd Yr Athro Emeritws Andy Penaluna, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, hefyd yn gwneud cyflwyniad ar Fenter, Entrepreneuriaeth a’r Persbectif Ewropeaidd.
Mae’r Athro Penaluna’n gweitho i Academi Genedlaethol Cymru ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol er datblygu arweinwyr addysg arloesol ac yn cynorthwyo UNESCO wrth ymateb i’r angen am Reithorion ac Is-Ganghellwyr entrepreneuriaeth yn y Caribî a De America. Mae wedi derbyn Gwobr Oes y Frenhines am Hyrwyddo Mentergarwch ac wedi ei enwi yn un o’r 100 uchaf ar restr entrepreneuriaeth Maserati.
“Mae’r uwchgynhadledd hon yn amserol iawn” yn ôl yr Athro Penaluna “oherwydd yn dilyn y pandemig ry’ ni’n gweld diffyg hyder ymysg dysgwyr. Felly maent yn ei chael hi’n anodd i gyflawni eu potensial o ran cyfleoedd mentergarol a chyflogaeth, o fewn busnesau bychan yn arbennig.”
“Byddaf yn rhannu fy safbwyntiau o’m cyfnod gyda’r Cenhedloedd Unedig a’r Comisiwn Ewropeaidd ac yn rhoi sylw i’r cymwyseddau â adnabuwyd gan ddangos sut mae Cymru’n datblygu mentrau er mwyn rhannu’r canfyddiadau â phobol ifanc.”
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i’r uwchgynhadledd a gynhelir rhwng 9am-4pm. I gadw eich lle ebostiwch [email protected].
Am ragor o wybodaeth, ewch i ’r wefan: www.anturcymru.org.uk.