A fyddai eich busnes yn elwa o weithiwr wedi ei ariannu’n llawn am chwe mis?
Mae Antur Cymru yn bartner cyflenwi ar gyfer y Cynllun Kickstart sydd newydd ei lansio, ac sy'n gyfle gwaith â thâl o 6 mis y gall cyflogwyr lleol elwa ohono. Mae cynllun y Llywodraeth yn darparu cyfleoedd wedi'u hariannu'n llawn i gyflogwyr roi profiad gwaith i bobl ifanc tra'n caniatáu iddynt ddatblygu prosiectau a gweithgarwch newydd.
Gwneud cais drwy Antur Cymru Enterprise am grantiau drwy'r Cynllun Kickstart
Pwy all wneud cais?
Gallwch ddefnyddio'r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.
Cymhwysedd
Gall cwmnïau cyfyngedig sydd â dwy flynedd o gyfrifon masnachu wneud cais ond, gall hyn newid i gynnwys busnesau nad ydynt yn gyfyngedig. Cysylltwch â ni am fanylion pellach. Rhaid i’r lleoliadau swyddi a grëwyd gyda chyllid Kickstart fod yn swyddi newydd.
Rhaid iddynt beidio â:
- Disodli swyddi gwag presennol neu rhai sydd yn gynlluniedig.
- Achosi i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.
- Rhaid i’r rolau yr ydych yn gwneud cais amdanynt fod am o leiaf 25 awr yr wythnos, am chwe mis.
- Ni ddylai fod yn ofynnol i bobl ymgymryd â hyfforddiant helaeth cyn iddynt ddechrau’r lleoliad gwaith.
Menter Antur Cymru yn llwyddo i'ch helpu i wneud cais
Rydym yn bartner cyflenwi cydnabyddedig sy’n sicrhau cyllid i’n busnesau cleientiaid mawr a bach drwy geisiadau ar y cyd neu ar eu pennau eu hunain.
Mae ein dull llwyddiannus yn dangos sut y bydd pobl ifanc yn cael eu cefnogi ac yn cynnig gwerth i’r cyflogwr ac yn datblygu sgiliau i wella eu rhagolygon cyflogadwyedd.
Caiff ein cymorth ei ariannu’n llawn drwy’r Cynllun Kickstart ac mae £500 arall fesul rôl ar gael i’r cyflogwr i helpu i dalu am wisgoedd, hyfforddiant penodol, neu gostau gosod eraill.
Ebost: [email protected]