Bu’r 25 o bobol ifanc rhwng 18-25 oed yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai busnes a oedd yn cwmpasu pynciau megis ariannu-ar-y-cyd, ymchwil i’r farchnad a brandio.
Mae’r Bŵtcamp yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr gweithgareddau Syniadau Mawr Cymru ar gyfer pobl ifanc wrth ehangu eu gwybodaeth fusnes a chefnogi eu dyheadau i lansio eu busnes eu hunain.
Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o Wasanaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop mae’n helpu pobl ifanc rhwng 5 a 25 oed i ddatblygu syniadau busnes a thalent entrepreneuraidd.
Am fwy o wybodaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy/gwybodaeth-am-syniadau-mawr-cymru neu e-bostiwch David – [email protected]