Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i drawsnewid Cymru drwy ddod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd i sbarduno twf a ffyniant.
Mae entrepreneuriaid yng Nghymru yn creu ac yn datblygu busnesau newydd, bywiog drwy’r adeg. Mae llwyddiant parhaus yr unigolion hyn yn hollbwysig i ledaenu ffyniant. Gyda thoreth o arweinwyr busnes, buddsoddwyr, academyddion, ymchwil a seilwaith, mae gan Gymru’r holl briodweddau sydd eu hangen i helpu entrepreneuriaeth i ffynnu.
Nawr, gyda chyflwyniad CREU SBARC, mae’r holl bethau hyn yn cael eu dwyn ynghyd i annog mwy o entrepreneuriaid yng Nghymru i ymuno â’r rhwydwaith hwn o arloeswyr, buddsoddwyr a doniau academaidd, er mwyn gweddnewid eu syniadau mawr yn gynhyrchion a busnesau eiconig y dyfodol.
Roedd Beverley Pold, Cadeirydd Antur Teifi yn bresennol yn y digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar yr 28ain o Fehefin. Meddai “Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn gyda dros 200 o bobl o bob sector yn frwdfrydig am y cyfle i gyfrannu at y weledigaeth entrepreneuraidd newydd hon i Gymru.”
Os ydych chi’n entrepreneur yng Nghymru, gall CREU SBARC roi’r sbardun sydd ei angen arnoch i roi hwb i’ch syniad neu symud pethau ymlaen i’r lefel nesaf. Trwy ymuno â’r mudiad hwn, cewch gyfle i gwrdd a chydweithio â phobl o’r un anian, cael eich ysbrydoli gan arweinwyr busnes gyda hanes o lwyddo a dod i gysylltiad â chyfalafwyr menter sydd am fuddsoddi yn syniadau mawr y dyfodol.
Dyma’ch cyfle i dorri tir newydd a chreu Cymru fwy ffyniannus. Am fwy o fanylion ewch i
www. creusbarc.cymru/cymryd-rhan/entrepreneuriaid