Sean Taylor, cyd-sylfeinydd a chyfarwyddwr Zip World, oedd y prif siaradwr mewn derbyniad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Ganolfan OpTIC yn Llanelwy i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed yn cefnogi busnesau. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i fusnesau gwrdd â Thîm Rheoli llawn Antur Teifi a’i holl aelodau Bwrdd.
Roedd cyflwyniad Sean yn stori ysbrydoledig o’i ddyddiau fel aelod o’r Royal Marines cyn dychwelyd i’w gartref yng Ngogledd Cymru yn 2007. Gyda’r awydd amlwg am antur yn ei waed yn ogystal â’r weledigaeth o’r hyn y gallai gyflawni i hybu economi’r ardal, agorodd y Tree Top Adventure ger Betws y Coed a’i ddilyn gan Zip World yn 2013.
Ers hynny, mae Sean wedi parhau i ddatblygu’r fenter gan roi cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol bob amser wrth wraidd ei weithgareddau busnes. Mae Sean yn frwd dros weithio’n agos gyda chymunedau – angerdd sy’n seiliedig i raddau helaeth ar y parch sydd ganddo am ei staff, yn enwedig eu lefelau uchel o arbenigedd ac ymrwymiad.
Gobeithiwn y bydd Sean yn ymweld â ni yma cyn bo hir yng Nghastell Newydd Emlyn fel y gallwn hefyd rannu o’i brofiadau a chael ysbrydoliaeth o’i allu i arloesi a chyrraedd ymhellach ac yn uwch.