Mae safle yn Sir Gaerfyrddin wedi cael gweddnewidiad gwyrdd er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy ac yn barod i gyflwyno buddion sylweddol i’r gymuned leol.
Dros y cyfnod clo, gwelwyd gwelliannau sylweddol ar waith ym Mhafiliwn Pencader, gan gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni a nodweddion gwyrdd. Daeth y gwaith i fwcl yn ddiweddar ac mae’n cynnwys system paneli haul ffotofolt1äig gyda batris i storio’r ynni, gwresogyddion trydan a goleuadau LED, gan sicrhau bod y Pafiliwn yn garbon-isel a lleihau costau rhedeg y neuadd yn aruthrol.
Yn ôl Cadeirydd y Pafiliwn, Emyr Morgan, bydd y biliau ynni ar gyfer gwresogi a defnyddio’r cyfleuster y nesaf peth i ddim. “Rydyn ni’n gyffrous iawn am y datblygiadau hyn,” meddai Emyr, “mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ymdrechu i leihau ein allyriannau carbon a thorri ein costau, er mwyn sicrhau ein bod yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd a sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Pafilwn a chyfleuster sy’n mynd i barhau i fod o fudd i’r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod.”
Mewn arolwg ynni gan Ynni Glas, a gomisiynwyd gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gorllewin Brechfa, yr argymhelliad oedd gosod paneli haul ffotofoltäig a batris i storio’r ynni er mwyn sicrhau bod y gost o redeg y neuadd yn hynod o isel wrth symud ymlaen.
Ariannodd Cronfa Gymunedol Ynni Sir Gâr y gwresogyddion newydd, y goleuadau LED a’r batris ynghyd â’r gwaith o osod y cyfan. Y contractwr lleol, KA Electrical, oedd yn gyfrifol am gwblhau’r gwaith. Bydd y paneli haul hefyd yn pweru car trydan cymunedol newydd Dolen Teifi a fydd yn cael ei wefru o ynni gwyrdd o’r paneli haul. Bydd y pwynt gwefru ar gael i ddefnyddwyr lleol hefyd.
“Roedd yn bleser ariannu’r prosiect rhagorol hwn gyda grant o bron i £24k,” meddai Neil Lewis o Ynni Sir Gâr. “Mae gan y prosiect fuddion amgylcheddol a chymdeithasol aruthrol ac roedden ni’n falch iawn o gydweithio â chymuned Pencader er mwyn darparu buddsoddiad o’r fath mewn ynni adnewyddadwy ac mewn cymuned wledig fel Pencader.”
Cwblhawyd y gwaith yn ddiweddar a’r gobaith yw gweld Pafiliwn Pencader yn fwrlwm o weithgarwch unwaith eto yn dilyn Covid 19. Mae Fferm Wynt Gorllewin Brechfa yn ariannu gwaith pellach i osod ffenestri a drysau newydd yn yr adeilad er mwyn cwblhau’r gwaith ailwampio.