Mae’r ceisiadau ar gyfer Gwobrau Fasnach Dathlu Busnesau Bach 2019 ar agor. Mae busnesau bach a’r hunangyflogedig yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan ac i ddathlu eu cyflawniadau. Cyhoeddir enillwyr Cymru mewn seremoni wobrwyo ar 22 Mawrth 2019 a gynhelir yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.
Mae’r gwobrau’n fodd i ddod i wybod am rai o’r busnesau bach gorau, mwyaf arloesol a mwyaf penderfynol sydd yng Nghymru.
Mae’n agored i bob busnes bach a’r hunangyflogedig yn rhad ac am ddim, boed yn aelodau cyfredol o’r FSB, neu beidio. Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy am y gwobrau neu i wneud cais.
Dyma’r categorïau:-
- Busnes Cymunedol y Flwyddyn (Cymru’n unig)
- Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
- Busnes Moesegol a Gwyrdd y Flwyddyn
- Gwobr Arloesedd Busnes a Chynnyrch
- Arloesedd Digidol y Flwyddyn
- Busnes Meicro’r Flwyddyn
- Busnes Newydd y Flwyddyn
- Busnes Cynnydd y Flwyddyn
- Busnes Teulu y Flwyddyn
- Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn (30 oed ac iau)
- Cyflogwr y Flwyddyn