Mae Antur Teifi yn gweithio gyda miloedd o fusnesau bob blwyddyn i’w helpu i wireddu eu hamcanion. Ry’ ni’n gwybod bod rhedeg busnes yn gymhleth iawn, yn heriol ac yn werth chweil. Ry’ ni hefyd yn gwybod y gall cynllunio gofalus arwain at berfformiad gwell. Caiff hyn ei ategu gan ymchwil annibynnol. Er enghraifft, cyhoeddodd Andrew Burke, Stuart Fraser a Francis Greene ymchwil yn y Journal of Management Studies 47(3) yn 2010 sy’n dangos bod cwmnïau sy’n cynllunio yn tyfu 30% yn gyflymach na’r rhai hynny sydd
Ry’ ni’n gwybod y gall cynllunio ar gyfer datblygu eich busnes gymryd llawer o amser ac weithiau mae’n gallu bod yn gymhleth oherwydd bod yna gymaint i’w hystyried. Gyda hyn mewn golwg, mae Antur Teifi wedi datblygu offeryn busnes hunan-asesu ar-lein a fydd yn eich galluogi i adnabod lle mae angen i chi ganolbwyntio eich sylw.
Mae Ciplun Byd Busnes Byw yn gofyn i fusnesau i raddio eu perfformiad ar draws 6 ardal fallweddol o fusnes:
- Cynllunio Busnes (gan gynnwys rheoli adnoddau o fewn y busnes)
- Deallusrwydd Marchnata
- Rheoli TG
- Rheolaeth Ariannol
- Strategaeth Farchnata
- Gwerthiant
Ar gyfer pob adran, gofynnir i chi i sgorio eich perfformiad presennol, cyn ateb cyfres o gwestiynau am y gweithgaredd ry’ chi’n ymgymryd â nhw o fewn pob adran. Ar ddiwedd yr adran, gofynnir i chi i sgorio eich hunain unwaith eto, gan ystyried eich hymatebion i’r cwestiynau hynny. Mae hyn yn eich galluogi i ddarparu ateb greddfol yn ogystal ag ymateb mwy ystyriol i’ch perfformiad ym mhob adran.
Ar ôl cwblhau’r Ciplun, bydd cyfanswm eich sgôr (allan o 60) yn cael ei roi, ac yna gwahoddir chi i ystyried pa feysydd o fewn y busnes sydd angen gwella.
Gellir defnyddio hyn wedyn fel sail ar gyfer cynllunio twf a datblygiad yn y dyfodol, ac arwain at wella perfformiad.