Bydd gwasanaethau cymorth busnes trwy’r Gymraeg yn cael hwb dros y misoedd nesaf gyda lansiad ymgyrch newydd sbon sy’n targedu busnesau ac entrepreneuriaid ar draws Gogledd Orllewin Cymru.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymestyn ei apêl trwy hyrwyddo ei weithdai Cymraeg, sesiynau galw heibio a darpariaeth llinell gymorth ddwyieithog. er mwyn codi’r nifer o bobol sy’n manteisio ar gefnogaeth cyfrwng Cymraeg.
Meddai Dafydd Evans, Rheolwr Gogledd Cymru, Busnes Cymru:
“Mae’r ymgyrch yn rhan o’n nod i annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar ein gwasanaethau dwyieithog ac ymgysylltu â Busnes Cymru yn y Gymraeg.
“Ry ni wedi sylwi bod llawer sy’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau ac yn derbyn cyngor, yn tueddu i wneud hynny trwy’r Saesneg. Mae llawer ohonynt, serch hynny, yn ddwyieithog, felly ry’ ni am sicrhau bod ein cwsmeriaid a’n darpar gleientiaid yn hollol ymwybodol bod y gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.
Bydd llawer o’r ymgyrch yn y Gymraeg yn unig, gan dargedu cyfryngau Cymraeg a rhwydweithiau cymdeithasol – dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn. Y gobaith yw y bydd yn cynyddu nifer y bobol sy’n manteisio ar ein gwasanaethau a’n digwyddiadau Cymraeg, gan roi cyfle i’n cleientiaid gyfathrebu â ni yn eu hiaith gyntaf.
“Mae gan Fusnes Cymru gynghorwyr profiadol sy’n siarad Cymraeg a Saesneg, felly mae ein neges yn syml – mae gennych ddewis pan fyddwch chi’n siarad â ni. Rydym am sicrhau bod ein cyngor mor hygyrch â phosib yn y ddwy iaith. “
Mae busnesau sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer sesiynau neu weithdai yn Gymraeg yn cael eu hannog i gysylltu â Busnes Cymru drwy’r wefan neu i ffonio’r llinell gymorth ar 03000 6 03000.