Sefydlodd Carman Yates Fusion yn Aberteifi yn 2017 gyda chefnogaeth Antur Cymru a Busnes Cymru. Datblygwyd hen dafarn a oedd bellach wedi’i chau yn fwyty a bar cyfoes, gan gynnig y gorau sydd gan fwyd Asiaidd i’w gynnig gydag amrywiaeth eang o brydau cartref wedi’u hysbrydoli gan ryseitiau teuluol clasurol o Hong Kong.
Mae’r fwydlen hefyd yn cynnig prydau bwyd Coreaidd, Thai a Japaneeg wedi’u paratoi gan y teulu sy’n cefnogi Ching Man Yates (adwaenir fel Carman); entrepreneur ifanc benywaidd a mam, a benderfynodd symud i Orllewin Cymru o Gaerdydd i sefydlu’r bwyty.
Roedd y gefnogaeth gan Busnes Cymru yn cynnwys:
- Delwedd a diwyg y fwydlen.
- Strategaethau prisio.
- Cefnogaeth o ran deddfwriaeth a hylendid bwyd.
- Cefnogaeth gyda dyluniad y brand.
- Cynllunio presenoldeb ar y Cyfryngau Cymdeithasol.
- Cynllunio busnes.
Mae Fusion (Aberteifi) yn cynnig ystod eang o gynnyrch lleol o Gymru, gan ddarparu cyfuniad o’r rhyngwladol a’r lleol.
Er bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn rhan o’r tîm, derbyniodd Carman gyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod yr iaith wedi’i hintegreiddio’n llawn yn y gwasanaeth, nodwedd bwysig yn y gymuned leol.