Mae Splice Cast yn y busnes o achub bywydau! Wedi’i leoli yn y Drenewydd, mae’r cwmni’n arbenigo yn bennaf mewn cynhyrchu ac ail-werthu cynhyrchion meddygol,
Mae eu hystod flaenllaw o offer canfod canser ceg y groth yn cynnwys nifer o frandiau eu hunain, yn ogystal â rhai dyfeisiau ychwanegu patent unigryw sy’n gwneud y gweithdrefnau’n fwy cywir. Gwerthir eu holl gynhyrchion yn y DU ac Ewrop.
Fel cyflenwr cynhyrchion a dyfeisiau meddygol hanfodol, mae gan Splice Cast ran allweddol i’w chwarae fel partner mewn llawer o gadwyni cyflenwi fel y GIG. Er mwyn cwrdd â rhwymedigaethau cytundebol, roedd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Duncan Morren â’r tîm yn teimlo bod Brexit yn peri nifer o fygythiadau posibl, yn bennaf i ofynion logistaidd a chyflenwi.
Roedd yr help a ddarparwyd gan Busnes Cymru yn cynnwys:
Mae Busnes Cymru wedi ein helpu i nodi a gwneud cais am gefnogaeth Grant Cydnerthu Brexit (£48,595) sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod gofod warws ychwanegol ar gael, sydd yn ei dro yn caniatáu inni ddal stociau mwy o ddeunyddai crai yn ogystal â nwyddau gorffenedig i’n hamddiffyn o effeithiau oedi ar y ffin a unrhyw ymyrraeth ar chyflenwadau. Mae hwn wedi bod yn gam hanfodol i’n gwneud yn barod ar gyfer Brexit an anawsterau cyflenwi posibl, yn ogystal â chadw ein cwsmeriaid a’n cytundebau cyfredol.
Mae gan Splice Cast berthynas barhaus â Busnes Cymru ac maent yn cael cefnogaeth ac arweiniad gan ei bod hi’n anodd rhagweld sut y bydd Brexit yn troi allan, felly mae’n anodd cynllunio ar ei gyfer yn gyfatebol. Mae ganddyn nhw staff ychwanegol ac maent wedi cynnal ail shifft i ymdopi â’r cyfnodau galw uchel ac isel disgwyliedig gan sectorau preifat a’r GIG.
Yn ddiweddar, mae Splice Cast wedi uwchraddio eu darpariaeth TG i wneud archebu yn symlach ac yn gyflymach, a ddylai ei gwneud hi’n hawdd i sicrhau parhad o’r cyflenwad ar gyfer cwsmeriaid. Mae’n amser ansicr, ond ma nhw’n ystyried Brexit fel cyfle i weithgynhyrchwyr y DU.