Mae llawer o sylw wedi’i roi i economi Dyffryn Teifi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn rhannol oherwydd gwaith grw?p gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Y nod oedd ystyried sut i annog a hybu swyddi ac ysgogi twf economaidd yn y dyffryn drwy sefydlu Ardal Twf Lleol. Cyflwynodd y grw?p ei argymhellion i’r Gweinidog ym mis Tachwedd 2013.
Mae Dyffryn Teifi yn cynnwys nifer o gymunedau mewn ardaloedd o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro y mae afon Teifi yn llifo drwyddynt. Maent yn ardaloedd y mae eu heconomi wedi’i gyrru’n draddodiadol gan amaethyddiaeth a diwydiannau sy’n gysylltiedig â’r sector hwnnw. Mae tranc rhai o gyfleusterau prosesu pennaf y dyffryn dros y degawdau wedi gadael ei ôl. Mae diwydiannau eraill wedi dod yn bwysicach, yn enwedig twristiaeth, ond mae economi’r dyffryn yn wynebu rhai heriau allweddol mewn amgylchedd a nodweddir gan boblogaeth sy’n heneiddio; swyddi sydd â chyflogau eithaf bach ac nad ydynt yn gofyn am sgiliau medrus; a gorddibyniaeth ar swyddi yn y sector cyhoeddus o gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU.
Cwmnïau bach yw’r rhan fwyaf o fusnesau. Ac eithrio rhai cyflogwyr mawr o bwys, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’r dyffryn yn ficrofusnesau – busnesau sy’n cyflogi hyd at 9 o bobl yw 92% o fusnesau cofrestredig yr ardal. Mae dwy thema drawsbynciol yn ategu’r dull cyffredinol o weithredu a gyflwynwyd gan y grw?p gorchwyl a gorffen, sef yr angen i wneud yn fawr o’r dirwedd a’r amgylchedd naturiol a’r angen i sicrhau cynifer o gyfleoedd ag sy’n bosibl o safbwynt y Gymraeg.
Ar ôl ystyried yr argymhellion, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol drwy gefnogi camau i sefydlu Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi. Mae hefyd wedi cyhoeddi eisoes y bydd yn sefydlu prosiect peilot yn ardal Dyffryn Teifi i dreialu’r cysyniad o Gymorthfeydd Cymorth Busnes Cymraeg a Chronfa Gymorth i Fusnesau Bach a Chanolig Cymraeg. Y tu hwnt i waith y grw?p, mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu hefyd bod trefi marchnad a arferai fod yn llewyrchus yn Nyffryn Teifi yn wynebu heriau, yn rhannol oherwydd demograffeg yr ardal, sy’n newid, ac oherwydd y newidiadau yn ymddygiad ac arferion prynwyr.
Meddai Dewi Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, “Mae’n ymddangos bod yr ardal yn wynebu rhai heriau eithaf sylweddol, a allai olygu y bydd yn parhau’n eithaf gwan o safbwynt economaidd ac y bydd yn dioddef yr holl effeithiau cymdeithasol a diwylliannol sy’n gysylltiedig â hynny.” “Fodd bynnag, mae lle i fod yn obeithiol. Mae syniadau busnes arloesol ac ysbrydoledig tu hwnt yn ein cyrraedd bob dydd,” ychwanegodd.
Mae Antur Teifi yn darparu ystod o wasanaethau busnes i gleientiaid ledled Cymru yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae’n rhan o gonsortiwm sy’n darparu sgiliau ac adnoddau ym maes cymorth busnes i un o raglenni blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Busnes Cymru. Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes, ac mae wedi gweithio gyda chwmnïau yn Nyffryn Teifi i’w galluogi i ddechrau arni a datblygu a thyfu.
Meddai Dewi Williams, “Fel sefydliad sy’n cyflogi dros 80 o bobl, sydd â’i bencadlys yn Nyffryn Teifi ac sy’n gwasanaethu cleientiaid ledled Cymru, rydym yn gweld mai’r allwedd i lwyddiant ar gyfer Dyffryn Teifi yw edrych tuag allan a bod yn hyderus yn ein sgiliau a’n gallu ar y cyd i fasnachu’n
effeithiol ble bynnag y mae cyfleoedd yny farchnad.” Mae Antur Teifi wedi croesawu canfyddiadau Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi. Drwy ei waith contract gyda’r llywodraeth a’i rôl ar amryw weithgorau a sefydlwyd i gynghori ynghylch cynyddu’r potensial ar gyfer cyllid Ewropeaidd yn yr ardal, mae Antur Teifi yn ymwneud yn weithredol â datblygu economi Dyffryn Teifi ac mae’n edrych ymlaen at chwarae ei ran yn y gwaith o ddatblygu lles economaidd yr ardal.
Kevin Harrington, Pennaeth Datblygu yn Antur Teifi, sy’n arwain dull y cwmnioddodohydi gyfleoedd i ddatblygu yn y dyfodol. Meddai Kevin, “Er ein bod yn awr yn cyflawni gwaith ledled Cymru, mae ein gwreiddiau’n ddwfn iawn yn Nyffryn Teifi ac rydym o’r farn bod gennym gyfraniad gwerthfawr i’w wneud i’r gwaith o ddatblygu’r ardal.” “Rydym wrthi ar hyn o bryd yn mynd ar drywydd nifer o gyfleoedd cyffrous ac arloesol, ac os byddant yn dwyn ffrwyth byddant yn bendant o fudd i gwmnïau yn Nyffryn Teifi.”
Yn rhan o’i raglen waith ar gyfer Dyffryn Teifi yn benodol eleni, mae Antur Teifi yn bwriadu cynnal trafodaeth yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan ar 25 Medi. Y siaradwr gwadd yn y digwyddiad fydd Bill Grimsey, cyn-Brif Weithredwr Iceland, Focus DIY a Wickes. Fe yw awdur “Sold Out” ac mae ganddo safbwynt diddorol ar yr heriau sy’n wynebu’r stryd fawr mewn trefi ledled y DU. Meddai Kevin Harrington, “Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu am ei syniadau a’i safbwyntiau a ddylai ysgogi trafodaeth werthfawr ynghylch beth y gellir ei wneud i adfywio canol trefi. Rydym yn hyderus y bydd yn gyfraniad defnyddiol i’r broses o ddatblygu gweledigaeth ar gyfer economi Dyffryn Teifi.”
I gael gwybodaeth am y digwyddiad a gynhelir ym mis Medi, ewch i’r wefan www.anturcymru.org.uk. Gellir gweld gwybodaeth am waith gweithgor Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi ar wefan Llywodraeth Cymru www.gov.wales
Medd Dewi Williams i gloi, “Gallai’r sylw y mae Dyffryn Teifi yn ei gael ar hyn o bryd fod yn gyfle gwirioneddol i adeiladu momentwm o safbwynt hybu newid economaidd go iawn yn yr ardal. Bydd hynny’n gofyn am gydweithredu ac am syniadau creadigol, ond mae’r deunydd crai i gyd yma.”