Mae’r Gronfa Busnesau Micro a Bychan (MSBF) ar gael i fusnesau micro a bychan sydd â llai na 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn.
Mae MSBF yn gronfa fuddsoddi sy’n targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.
Bydd cymorth o rhwng £25,000 a £500,000 yn cael ei ystyried, er mwyn:
- creu a diogelu swyddi
- sicrhau lles a datblygiad economaidd
- sicrhau ansawdd, arloesedd a naws am le.
Ydych chi’n gymwys?
I wybod a yw eich prosiect yn gymwys am gymorth:
- darllenwch y nodiadau canllaw (dolen allanol)
- trafodwch â ni i weld a yw eich prosiect yn bodloni ein blaenoraeithau a’n meini prawf cymhwyster,
- llenwch yr Holiadur Rhagarweiniol a’r ffurflen monitro Cyfle Cyfartal.
Byddwn yn prosesu’r ffurflenni hyn ac yn gwahodd ceisiadau pan yn briodol. Byddwn yn gadael ichi wybod pa wybodaeth rydym ei angen i brosesu eich cais, ac yn anfon y ffurflen gais sy’n addas ar gyfer eich busnes.
I gael mwy o wybodaeth ewch: https://businesswales.gov.wales/cy/zones/tourism/cyllid
Cysylltwch â ni ar [email protected] neu 0845 010 8020.