Yn dilyn cyfnod twf o 12 mlynedd mae Rheolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, Dewi Williams, yn gadael y cwmni.
Gydag 20,000 o fusnesau wedi’u cefnogi, 4,000 o swyddi hunan-gyflogedig a busnesau newydd wedi dechrau, ac 11,000 o swyddi newydd neu wedi eu diogelu, mae’r cwmni mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen i’r cam nesaf o dwf.
Nawr yn ei 40fed blwyddyn, mae Antur Teifi wedi wynebu nifer o heriau wrth weithredu o fewn yr hinsawdd economaidd cyfnewidiol sydd wedi bod ohoni. Mae’r cyfleoedd masnachol sydd wedi cael eu meithrin a’u datblygu dros y 12 mlynedd diwethaf wedi sicrhau bod sefyllfa Antur Teifi yn asiantaeth cymorth busnes mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn 1979.
Mae’r broses o benodi Rheolwr Gyfarwyddwr newydd gyda’r uchelgais, y weledigaeth a’r brwdfrydedd i adeiladu ar y llwyddiant hwn, bellach wedi dechrau.
Mae manylion y rôl yn cael eu paratoi ar hyn o bryd a byddant ar gael yn yrstod yr wythnosau nesaf.