Yn dilyn asesiad Committed2Equality (C2E) yn ddiweddar mae’r cwmni’n falch iawn i gyhoeddi ei fod wedi cadw’r Safon Aur a hynny am y pumed flwyddyn yn olynol.
Mae cyrraedd y Safon Cydraddoldeb Cenedlaethol hwn nid yn unig yn rhoi mantais i’r cwmni ar gyfer ennill busnes mewn marchnad gystadleuol iawn, ond mae hefyd yn rhan allweddol o’n Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol tuag at ein gweithwyr o fewn y cwmni ac o ran y gwasanaeth ry’ ni’n darparu yn allanol drwy ein prosiectau ein hunain yn ogystal â’r cytundebau ar ran ein partneriaid.
Chris Hewitt yw Cadeirydd Antur Teifi. “Fel cwmni, ry’ ni’n falch iawn o’r llwyddiant hwn ac yn arbennig wrth sicrhau sgôr uchel iawn eleni eto. Mae’n arwydd clir o ymrwymiad y cwmni yn ei fwriad o gynnal y safonau uchel wrth gefnogi busnesau a’r gymuned.”