Cynhaliwyd yr ail gyfarfod Rhwydweithio CCP yng Ngwesty’r Emlyn, ddydd Mercher, y 5ed o Ragfyr. Gyda nifer dda o fusnesau wedi troi mas unwaith eto, cafodd cynrychiolwyr brecwast hyfryd gyda digon o de a choffi a rôl bacwn tra’n cael cyfle i sgwrsio a chlywed mwy am fusnesau ei gilydd.
Sefydlwyd Rhwydwaith Busnes Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (CCP) gan Dave a Claire Thomas o Thomas Safety Services Cyf fel grŵp di-elw, a chynhelir cyfarfodydd ar DDYDD MERCHER CYNTAF bob mis. (Ac eithrio Ionawr 2019, a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 9 Ionawr 2019.) Y ffi mynediad yw £ 5 y pen am y lluniaeth,
Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu [email protected] neu Facebook www.facebook.com/groups/CCPBusinessNetwork neu Twitter https://twitter.com/CCPBusinessNet