Mae Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru wedi lansio’i ymgyrch i ddod o hyd i fusnesau bach mwyaf llwyddiannus ar draws y DU. Naill ai busnesau sy’n allforio i fusnesau newydd, ac o arloeswyr i fusnesau gwyrdd, busnesau teuluol I entrepreneuriaid ifanc, mae cwmnïau bach yn cael eu hannog I gymryd rhan yng ngwobrau FSB Dathlu Busnesau Bach 2019.
Cynhelir rownd derfynol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2019, gyda’r holl enillwyr yn cystadlu yn rownd derfynol genedlaethol y DU a gynhelir ar 23 Mai 2019 yn Evolution Battersea, Llundain. Yma, cyhoeddir y 10 enillydd yn y categoriau isod:
- Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn
- Busnes Moesegol a Gwyrdd y Flwyddyn
- Gwobr Arloesedd Busnes a Chynnyrch
- Arloesedd Digidol y Flwyddyn
- Busnes Meicro y Flwyddyn
- Busnes Newydd y Flwyddyn
- Busnes Wedi Tyfu y Flwyddyn
- Busnes Teuluol y Flwyddyn
- Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn (30 oed ac iau)
- Cyflogwr y Flwyddyn
- Gwobr Cymunedol
Mae’r gwobrau yn rhad ac am ddim I ymgeisio ac yn agored i bob cwmni bach. Y dyddiad cau ar gyfer y gwobrau Cymraeg yw 8fed Chwefror 2019.