Mae’r prosiect Sgiliau Newydd Dechrau Newydd yn darparu lle i fusnesau bach allu masnachu yng nghanol trefi
Mae prosiect peilot newydd ar fin lansio yng Ngheredigion er mwyn hybu busnesau bach sy’n dymuno treialu syniadau ar y stryd fawr.
Bydd y fenter Sgiliau Newydd Dechrau Newydd yn cael ei arwain gan y cynghorwyr busnes Antur Cymru, gydag arian yn cael ei ddarparu drwy Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn ystod y misoedd nesaf, fe fydd y fenter yn gwneud defnydd o adeiladau gwag ar draws y sir er mwyn agor siopau dros dro i fasnachwyr.
Mae rhan fwya’r masnachwyr un ai’n fusnesau bach o’r newydd neu ddim ond wedi masnachu ar-lein yn y gorffennol, ac fe fyddan nhw’n cael cyfle i weld a yw masnachu ar y stryd fawr o fudd iddyn nhw.
Yn rhan o’r cynllun, bydd y masnachwyr yn cael cyngor busnes arbenigol hefyd, a fydd dim rhaid i’r masnachwyr dalu unrhyw ffi i gael defnyddio’r gofodau chwaith.
Bydd y siopau dros dro yn agor yn Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, a Llanbed dros yr wythnosau nesaf.
Sgiliau Newydd Dechrau Newydd
Julie Morgan yw rheolwr y prosiect, ac mae hi’n edrych ymlaen i weithio gyda’r rheiny sy’n dymuno datblygu eu syniadau busnes.
“Mae gan fenter Sgiliau Newydd Dechrau Newydd sawl elfen iddi,” meddai wrth golwg360.
“Y bwriad yw rhoi gofod i fasnachwyr, sydd gan fwyaf yn masnachu ar-lein ond eisiau lle eu hunain.
“Dydy llawer ohonyn nhw ddim yn gallu fforddio talu am le eu hunain, ond maen nhw’n awyddus i dreialu hynny er mwyn gweld sut byddai’r galw yn eu helwa.
“Tra’u bod nhw’n gwneud hynny, byddwn i hefyd yn ychwanegu gwerth at eu profiad drwy eu hyfforddi nhw, a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw angen.”
‘Barod i groesawu unrhyw un’
Mae rhan fwya’r busnesau sydd wedi ymuno â’r fenter hyd yn hyn yn ymwneud â chrefft mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, gan gynnwys gwneuthurwr lamplenni, dylunydd, a rhywun sy’n adfer hen ddodrefn.
Ychwanega Julie Morgan y byddan nhw’n “hyblyg” ac yn “barod i groesawu” pob math o fusnesau bach.
Mae hi hefyd yn credu bod yna “lawer o gyfleoedd” i fasnachwyr, yn enwedig wrth adfer o’r pandemig.
Fe fydd y fenter yn dod i ben ar Fehefin 30 eleni, ond mae’n debyg y bydd yn cael ei hymestyn pe bai’n llwyddiannus.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Antur Cymru neu e-bostiwch [email protected].Rhannu
Prosiect peilot arloesol i hybu busnesau newydd yng Ngheredigion – Golwg360
https://anturcymru.org.uk/entrepreneurship/new-skills-new-start/