Roedd Antur Cymru yn awyddus i rannu’r datblygiadau diweddaraf ynglyn a Treth Digidol gyda’n cleientiaid ac fe gynhaliwyd sgwrs gydag LHP a baratodd rai pwyntiau allweddol i egluro’r sefyllfa ddiweddaraf i ni.
Beth yw Gwneud Treth yn Ddigidol?
Mae gwneud Treth yn Ddigidol yn prysur agosau at lawer, ac mae’n dod a chosbau i’r rhai sydd ddim yn cydymffurfio ac yn cynnwys newidiadau mawr i’r mwyafrif o fusnesau allan yna. Ond beth ydyw, sut mae’n effeithio ar weithrediadau cyllid a sut y gall busnesau baratoi?
Mae gwneud Treth yn Ddigidol yn fenter orfodol gan y llywodraeth sy’n nodi gweledigaeth feiddgar i gael un o’r gweinyddiaethau treth mwyaf digidol yn y byd. Mae’n cynrychioli newid mawr i’r ffordd y bydd busnesau yn cofnodi gwybodaeth ariannol ac yn cyflwyno ffurflenni treth, a bydd y mwyafrif o fusnesau’n cael eu heffeithio.
Y mae’r cynllun yn addo y bydd gweinyddu treth yn fwy effeithiol ac yn hawsach i fod yn gywir. Yn syml, y mae ‘Making Tax Digital’ yn golygu y bydd angen i fusnesau i gael meddalwedd sydd yn cydymffurio gyda’r HMRC. Mewn termau syml, y bydd hyn yn golygu y bydd angen i fusnesau i symud i feddalwedd cwmwl.
Pwy ma Gwneud Treth yn Ddigidol yn effeithio?
Mae cynlluniau llywodraeth y DU ar y gweill i foderneiddio ein system dreth yn y DU. Mae busnesau naill ai eisoes yn ffeilio TAW a chyfrifon bob cwarter yn ddigidol neu bydd angen iddynt wneud hynny yn y dyfodol agos. Bydd angen i’r rheini sydd a throsiant blynyddol o fwy na £10k ddefnyddio meddalwedd neu app penodol i gadw eu cofnodion busnes yn y dyfodol. Bydd y dyddiau o gadw cofnodion a llaw drosodd!
Bydd pob cwmni TAW dros y trothwy o £85k eisoes wedi cael ei symud i dreth ddigidol. Mae angen i’r holl fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW sydd a throsiant blynyddol trethadwy o dan £85,000 ddilyn rheolau Gwneud Treth yn Ddigidol nawr, i gydymffurfio mewn pryd erbyn Ebrill 2022. Bydd Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn cael ei chyflwyno yn 2023. Felly bydd angen i unrhyw un sy’n hunangyflogedig gan gynnwys landlordiaid ac unigolion sy’n ennill dros £10k y flwyddyn gydymffurfio.
Dylai pob math o fusnesau weithredu’n fuan, er mwyn osgoi trawsnewidiad dirdynnol ac i elwa’n llawn o gyfrifeg cwmwl.
Y cam nesaf?
Siaradwch â’ch cyfrifydd yn fuan a symud yr olwynion i baratoi eich busnes ar gyfer Treth Digidol ac archwilio’r buddion y gall system cyfrifedd cwmwl gynnig i chi gan gynnwys pictwr unrhyw bryd, unrhyw le a cofnodi derbynebau a thaliadau banc yn awtomatig mewn amser real.
I ddarganfod mwy am tanysgrifiadau modelau cwmwl i alluogi eich busnes i leihau eu costau, hwyluso gweithio’n anghysbell a neud y mwyaf o gyfleoedd i gydweithredu, siaradwch â Aled o dîm Telemat ar 01239 712345.
I gael mwy o wybodaeth am Gwmni Datrysiadau TG Telemat: www.telemat.co.uk, or www.anturcymru.org.uk
I gael mwy o wybodaeth am Gyfrifwyr Siartredig LHP: Let’s Talk, www.lhphillips.com