Yn ddiweddar, cyfrannodd aelodau’r staff yn Aberarad bocsus o rawnfwyd i Fanc Bwyd Caerfyrddin fel rhan o ymgyrch o’r enw #WestWalesCerealDrive
Trefnwyd yr ymgyrch gan Siambr Fasnach De Cymru gyda’r nod o sicrhau bod pobl ifanc yn cael brecwast cyn mynd i’r ysgol er mwyn rhoi’r dechrau gorau iddynt wrth baratoi am ddiwrnod prysur yn yr ysgol a’u helpu I anelu at fod yn weithwyr, arweinwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol.