Hwyl Fawr a Helo!
Yma yn Antur Teifi roedd 2018 yn amser i ffarwelio gydag un Rheolwr Gyfarwyddwr a chyfle i groesawu un arall. Ym mis Tachwedd, gadawodd Dewi Williams, ein Rh.G. ers 2006, a phenodwyd Bronwen Raine yn olynydd iddo. Bronwen yw’r pedwerydd Rheolwr Gyfarwyddwr yn hanes y cwmni ac y mae’n gafael yn yr awenau ar adeg pwysig iawn wrth i Antur Teifi nodi carreg filltir bwysig yn ei stori, sef dathlu 40 mlynedd o gefnogi busnesau yng Nghymru.
Ym mis Medi, fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi penodiad Chris Hewitt fel Cadeirydd newydd y Bwrdd, yn dilyn cyfnod o dair blynedd Bev Pold wrth y llyw.
Blwyddyn Newydd Dda!
achrediadau isod yn ystod 2018.
Committed to Equality (C2E) Safon Aur
Buddsoddwyr Mewn Pobl (IIP)
ISO (9001).
C2E yw’r corff sy’n cynorthwyo ac adnabod ymrwymiad i gydraddoldeb yn y gweithle.
IIP yw’r safon fyd-eang rheoli pobl wrth wireddu potensial staff i gyflawni canlyniadau cynaliadwy.
Mae ISO 9001 wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau fodloni anghenion cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.
gefnogi miloedd o fusnesau ar draws Cymru – o fusnesau newydd hyd at fusnesau sy’n tyfu. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau newydd megis cymorthfeydd cyngor busnes bach, a chrëwyd partneriaethau newydd er mwyn darparu ystod lawn o opsiynau cyllid ar gyfer busnesau.
Mae ein partneriaeth gyda’r Start Up Loan Company a sefydlwyd yn 2012, wedi bod yn mynd o nerth-i-nerth gyda dros £5 miliwn yn cael ei ddyrannu i 450 o fusnesau newydd hyd yn hyn.
Gwasanaethau Busnes
Wrth i fwy a mwy o fanciau’r stryd fawr gau yn ein trefi marchnad, mae ymrwymiad Antur Teifi i helpu busnesau yn bwysicach nag erioed. Ry’ ni’n gwybod o weithio gyda miloedd o fusnesau bob blwyddyn, bod llawer ohonynt yn colli’r berthynas bersonol a’r cyfle i drafod wyneb yn wyneb â staff y banciau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ry’ ni wed datblygu partneriaethau newydd er mwyn helpu busnesau i ffynnu ac i dyfu ac o ganlyniad mae ein portffolio gwasanaethau busnes yn awr yn cynnwys Cardiau Talu, Datrysiadau Ynni Busnes, Cyllid Asedau, Morgeisi Masnachol, Gwefannau a Dylunio Graffeg, SystemDâl EPOS a Systemau Camerâu Cylch Cyfyng.
Prosiect Wifi Trefi Sir Gâr
Ry’ ni’n falch o fod yn rhan o ddarpariaeth wi-fi am ddim i’r cyhoedd ar draws Sir Gaerfyrddin wrth i ni gydnabod pa mor hanfodol yw gwasanaethau digidol i’n cymunedau. Ym mis Mehefin 2018, enillodd Telemat TG gytundeb i osod system wi-fi cyhoeddus mewn chwe thref wledig ar draws Sir Gaerfyrddin. Bydd y prosiect arloesol a ariennir yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, yn weithredol yn nhrefi Caerfyrddin, Llanymddyfri, Hendygwyn ar-dâf, Sanclêr, Porth Tywyn a Phen-bre a Rhydaman a hynny am gyfnod peilot o ddwy flynedd. Bydd y data a gesglir yn rhan o’r prosiect yn cael ei ddadansoddi gan y tîm yn Telemat a dau brentis digidol a gyflogwyd gan Antur Teifi. Bydd Stacie a Rhys yn helpu busnesau i ddehongli’r data a gasglwyd er mwyn iddynt ddeall sut orau i ddefnyddio’r wybodaeth ar gyfer eu gweithgareddau marchnata.
Cronfa Gymunedol Fferm Wynt
Gorllewin Coedwig Brechfa
Ym mis Mehefin, comisiynwyd Antur Teifi gan gwmni Innogy i weinyddu Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa. Yn ystod oes y fferm wynt o bum-mlynedd-ar-hugain, mi fydd y gronfa’n rhannu £11miliwn i’r gymuned o fewn dalgylch y fferm wynt i helpu gyda materion economaidd a chymdeithasol. Rheolwr y Gronfa yw Moishe Merry ac y mae’n gweithio ochr yn ochr â’r panel gwirfoddol yn asesu ceisiadau. Eisoes mae ceisiadau am dros £1m wedi eu derbyn.
Perspectif
Yn ystod 2018 mae Perspectif wedi bod yn gweithio gyda ‘The Royal Mint Experience’, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Rhanbarthol, yn darparu amryw o brosiectau ymgynghori ac ymchwil. Ar ran ‘The Royal Mint Experience’ gwnaethpwyd gwerthusiad gynhwysfawr o’r farchnad. Ar gyfer eu cleientiaid y sector cyhoeddus, paratowyd a chynhaliwyd arolygon ar-lein er mwyn casglu gwybodaeth. O’r gwaith hwn cafwyd mewnwelediadau gwerthfawr ar gyfer eu cynllun busnes a’u gweithgareddau datblygu a chyfathrebu ar gyfer 2019.
“Mae ‘The Royal Mint Experience’ yn atyniad newydd ac roedd yn bwysig i ni adnabod y cyfleoedd sydd ar gael y tu allan i’n cynulleidfa graidd. Gan weithio gyda’r tîm yn Perspectif, wnaethon ni gynnal dadansoddiad cynhwysfawr o’r farchnad ac yn sgil y wybodaeth a gasglwyd, rydym wedi creu pecyn mewnwelediad gwych ar gyfer y busnes”. David Stock, Pennaeth ‘The Royal Mint Experience’
Digwyddiadau Astudiaethau Achos Busnes Cymru
Trefnwyd saith digwyddiad ar draws Cymru yn ystod 2018 mewn partneriaeth â chleientiaid Busnes Cymru. Y busnesau oedd: Geo Smart ym Machynlleth, Caffi Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Old Market Deli, Caerfyrddin, Maggie’s Exotic Foods, Penygroes, Pembrokeshire Wake Park, Medina’s yn Aberystwyth, a Coles Brewery yn Llanddarog. Ym mhob digwyddiad cafwyd cyflwyniadau diddorol ac ysbrydoledig gan y perchnogion am eu taith wrth ddechrau busnes ac roedd eu brwdfrydedd yn anogaeth werthfawr i’r mynychwyr hynny oedd yn cymryd y cam cyntaf o ran eu hantur eu hunain.