Mae’r pandemig wedi cryfhau anghydraddoldeb o ran deilliannau iechyd, cyflwr tai, cyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd economaidd a llesiant.
I fynd i’r afael â’r materion hyn, cynhaliodd Prif Gyfreithiwr a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS, gyfres o gylchoedd trafod arbenigol a gofyn i Ganolfan Polisïau Cyhoeddus Cymru baratoi cyfres o bapurau trafod i amlinellu meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt.
Mae’r papurau’n trafod materion sy’n bwysig i helpu Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer adferiad economaidd a chymdeithasol yn sgîl pandemig Cofid 19 ac yn berthnasol hefyd i wasanaethau cyhoeddus a chyrff eraill sy’n llunio strategaethau adfer.