Penodwyd Toni Godolphin yn Weithredwraig ar gynllun newydd Kickstart. Bu’n Ymgynghorydd busnes a chyn hynny bu’n gweithio o fewn y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae’n angerddol dros helpu pobl ifanc i sicrhau gwaith, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni, pan mae lles pobl mor bwysig a dod o hyd i swyddi yn heriol.
Dywedodd Toni “Pan ddaeth y swydd yn rhydd, roeddwn yn gwybod yn syth bod rhaid i fi o leiaf rhoi cynnig arni. Mae’r cynllun Kickstart yn gyfle gwych nid yn unig i bobl ifanc i ennill profiad gwaith gwerthfawr ond hefyd i gyflogwyr dderbyn cefnogaeth ariannol i helpu gyda staffio wrth ddod allan o COVID, a’r gobaith o ennill aelodau staff hirdymor i yrru busnes yn ei flaen.”
Beth yw’r Cynllun Kickstart?
Mae Menter Antur Cymru yn bartner cyflenwi’r Cynllun Kickstart sydd newydd ei lansio. Gall cyflogwyr lleol elwa o’r cynllun trwy gynnig cyfleoedd gwaith â thâl 6 mis i berson ifanc. Mae’r cynllun hwn gan y Llywodraeth yn darparu cyfleoedd wedi’u hariannu’n llawn er mwyn i gyflogwyr roi profiad gwaith i bobl ifanc tra’n caniatáu iddynt ddatblygu prosiectau a gweithgareddau newydd.
Ydych chi’n gymwys?
Gall Cwmnïau Cyfyngedig sydd â dwy flynedd o gyfrifon masnachu wneud cais.
Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor.
Rhaid i’r rolau rydych yn gwneud cais amdanynt fod am o leiaf 25 awr yr wythnos, am chwe mis.
Menter Antur Cymru yn eich helpu i wneud cais.
Rydym yn bartner cyflenwi cydnabyddedig sy’n sicrhau cyllid ar gyfer ein cleientiaid busnes – mawr a bach – trwy geisiadau ar y cyd neu’n annibynnol. Mae ein dull llwyddiannus yn dangos sut y bydd pobl ifanc yn cael eu cefnogi ac yn cynnig budd i’r cyflogwr tra’n datblygu sgiliau i wella eu rhagolygon eu hunain ar gyfer sicrhau cyflogaeth.
Ariennir ein cefnogaeth yn llawn trwy’r Cynllun Kickstart ac mae cyllid ychwanegol ar gael i helpu i dalu am iwnifform, hyfforddiant penodol, neu gostau sefydlu eraill.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen:https://anturcymru.org.uk/about-antur-cymru/kickstart-scheme-wales/
neu allwch chi gysylltu â Toni yn uniongyrchol ar 07800 5877014 neu [email protected]