Fe wnaeth Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion ymweld â hen fanc HSBC yn Llandysul ar ddydd Llun 8 Gorffennaf i gefnogi Antur Teifi yn ei waith o dynnu sylw at y problemau sy’n wynebu busnesau yn sgil diflaniad y banciau o’r ardaloedd gwledig.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gasglu barn busnesau am eu hanghenion dros goffi yng Ngwesty’r Porth.
Cafodd y digwyddiad sylw ar raglen Taro’r Post, Radio Cymru gyda chyfraniadau gan Is-gadeirydd AnturTeifi, Steff Jenkins, y Cynghorydd Sir lleol Keith Evans, Breian Teifi, dyn busnes lleol a Ben Lake AS.