Mae tri o fusnesau o Gymru wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Busnes Gwledig 2017.
Mae Canolfan Ceridwen yma yn Nyffryn Teifi wedi cael ei henwi yn y categori Busnes Twristiaeth Wledig Orau. ET Landnet, cwmni ynghyngoriaeth ar hawliau tramwy a leolir yn Cross Hands wedi cael ei enwi yng nghategori Gwasanaethau Proffesiynol Gwledig Orau a Crwst, becws bach ym Mlaenffos wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr Entrepreneur Gwledig y Flwyddyn.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 5 Hydref 2017 ar Stad Gwin Denbies, Surrey.
Pob lwc i’r tri.
I gael mwy o wybodaeth am y gwobrau ac i weld y rhestr lawn ym mhob categori, ewch i www.ruralbusinessawards.co.uk/finalists-2017/