Mae gyrfa Mr Hewitt yn cynnwys 20 mlynedd yn y Sefydliad Awyrofod Brenhinol, bu’n ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad ym 1999 ac yn cynrychioli’r Gymdeithas Athrawon a Darlithwyr yn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Bu’n gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru am bum mlynedd a hanner hyd at 2008 ac wedi bod yn Ynad Heddwch ers dros 13 mlynedd. Mae’n ymddiriedolwr yng Nghastell Aberteifi ac ef yw Trysorydd presennol Ymddiriedolaeth Cadwgan.
Bydd 2019 hefyd yn flwyddyn bwysig i fusnesau eraill ledled y DU wrth i ddyddiad gadael yr UE nesáu. Tra bod busnesau bach a chanolig yn aros i weld pa heriau fydd yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod mae Bwrdd Antur Teifi, o dan ei gadeiryddiaeth newydd, yn hyderus y bydd profiadau’r 40 mlynedd diwethaf yn sylfaen gadarn ar gyfer y gwaith o gefnogi busnesau i’r dyfodol.
Hoffwn hefyd ddiolch i’r cyn Gadeirydd Bev Pold, am ei chyfraniad dros y blynyddoedd ac am ei chadernid wrth y llyw.“