Teitl y swydd | Swyddog Perthynas â Chleientiaid |
Yn adrodd wrth | Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid |
Is-adran | Busnes Cymru |
Band cyflog | Cyflog o £21,000 y flwyddyn |
Dyddiad ysgrifennu | Diweddariwyd Mehefin 2018 (Adolygwyd Rhagfyr 2018) |
Lleoliad | Gogledd Cymru |
Rheswm dros y rôl:
Yn rhan o bartneriaeth mae Busnes mewn Ffocws, Antur Teifi a Serco yn ffurfio Partneriaeth Twf Cymru. O fis Ionawr 2016, am gyfnod o bum mlynedd, bydd Partneriaeth Twf Cymru yn darparu gwasanaeth Busnes Cymru, sef gwasanaeth cymorth busnes a ddarperir ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff y gwasanaeth hwn ei arwain gan y Rheolwr Cenedlaethol, sy’n cael cymorth gan tri Rheolwr Rhanbarthol (ar gyfer y Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin a’r De) i reoli’r gwaith o ddarparu’r gwasanaeth ar draws Cymru.
Mae model darparu gwasanaeth Busnes Cymru yn rhannu cymorth yn bedair lefel, sef Cleientiaid Hunangyflogedig, Microfusnesau a dwy lefel o Dwf. Bydd cleientiaid yn gallu cael cyngor trwy gymorth dros y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb gan dîm o Reolwyr Perthynas â Busnesau ac Ymgynghorwyr Busnes. Darperir ystod eang o wybodaeth a chyngor busnes i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli’n barod.
Crynodeb o’r swydd:
Cynorthwyo’r gwaith o ddarparu gwasanaeth Busnes Cymru ar lefel ranbarthol. Prosesu ymholiadau drwy’r model gwasanaeth sydd wedi’i rannu’n lefelau, gan ddarparu gwybodaeth, cyfeirio cleientiaid at wasanaethau a’u hatgyfeirio at randdeiliaid mewnol ac allanol. Cynorthwyo’r tîm ymgynghorol i reoli’r berthynas â chleientiaid, a chynrychioli’r gwasanaeth mewn gweithgareddau hyrwyddo.
Cyfrifoldebau allweddol:
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad gan gleientiaid, gan gynnal dadansoddiad cychwynnol er mwyn penderfynu’n gywir a yw’r cleient yn gymwys i gael cymorth ac a oes ganddo’r potensial i dyfu, a phenderfynu ynghylch unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan y cleient, gan atgyfeirio a phrosesu pob ymholiad yn briodol, e.e. cyfeirio’r cleient at system BOSS ar gyfer hyfforddiant ar-lein, cyfeirio at y lefel/arbenigedd priodol yn y model cyflawni, ac ati.
- Lle bo’n gymwys, darparu gwybodaeth i gleientiaid, eu cyfeirio at wasanaethau a/neu’u hatgyfeirio at sefydliadau partner a sefydliadau cyfryngol arbenigol fel y bo’n briodol, gan gofnodi hynny’n unol â gweithdrefnau ac o fewn terfynau amser a bennir.
- Gweithio gyda’r Ymgynghorwyr i gynnal perthynas â chleientiaid drwy fonitro a chynorthwyo cleientiaid ar hyd eu taith, ar adegau a bennir. Adolygu cynnydd cleientiaid a phenderfynu a oes angen unrhyw gymorth pellach arnynt, croesgyfeirio er mwyn cynnal eu hymwneud â’r gwasanaeth neu’u cyfeirio at bartneriaid allanol fel y bo’n briodol, ac adolygu bodlonrwydd cleientiaid.
- Mynychu digwyddiadau marchnata, e.e. ffeiriau busnes, digwyddiadau partneriaid a gweithgareddau cysylltiedig, er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth a chyfrannu at dargedau ar gyfer ymwneud â chleientiaid.
- Rheoli data cleientiaid yn gywir gan sicrhau bod pob gweithgarwch yn cael ei gofnodi ar systemau TG a bod canlyniadau ymyriadau’n cael eu dangos a’u cofnodi mewn modd sy’n cydymffurfio â’r gofynion.
- Cyflawni dyletswyddau mewn modd proffesiynol ac amserol gan roi gwasanaeth o safon uchel i gwsmeriaid. Cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth dda ynghylch y cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat i fusnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.
- Cynorthwyo Arweinydd y Tîm Perthynas â Chleientiaid trwy nodi a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus, e.e. gweithdrefnau, systemau gwaith.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gallai fod yn rhesymol i Dîm Rheoli Busnes Cymru eu pennu.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy’r wybodaeth a’r cymorth busnes a ddarperir i gleientiaid Busnes Cymru.
- Cynnal ymwybyddiaeth gyfredol a lefelau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ynghylch materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth ac ynghylch sut i ddarparu gwasanaeth cynhwysol mewn modd proffesiynol i bob cleient.
- Darparu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gwerthoedd Antur Teifi a gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru.
Mae’r uchod yn ddiffiniad bras o gyfrifoldebau’r swydd. Nid yw’n ystyried yr holl agweddau ar y swydd y gallai fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd eu cyflawni. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn cael eu pennu gan ofynion y busnes.
Manyleb Person
Hanfodol |
|
Addysg / Hyfforddiant | |
Profiad |
|
Gwybodaeth |
|
Sgiliau / Cymwyseddau |
|
Dymunol iawn |
|
Addysg / Hyfforddiant |
|
Profiad |
|
Sgiliau / Gwybodaeth |
|