Bydd gweithredu'r Ddeddf Gynllunio newydd (Cymru ) 2015 yn golygu y bydd angen deialog effeithiol gyda chymunedau. Bydd ymgynghori cyn-ymgeisio am ddatblygiadau mawr yn angenrheidiol. Bydd angen i sefydliadau i ymgynghori’n effeithiol i ddenu cyllid o dan nawdd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014- 2020.
Mae 92% o fusnesau a gofrestwyd yn Nyffryn Teifi yn gwmnïau bach. Er ein bod erbyn hyn yn gweithio gyda chwmnïau ledled Cymru, ry’ ni’n credu bod gennym gyfraniad gwerthfawr i'w wneud o ran cefnogi busnesau bach a thwf yn Nyffryn Teifi nid lleiaf drwy weithio mewn partneriaeth â Pharth Twf Dyffryn Teifi a grëwyd o ganlyniad i ganfyddiadau'r Gr?p Gorchwyl Gorffen Dyffryn Teifi a sefydlwyd gan Edwina Hart, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth .
Mae’r sector gwasanaethau busnes yn cydnabod y buddion sy’n gysylltiedig â defnyddio technoleg Cwmwl, yn enwedig wrth i’r hyblygrwydd cynyddol arwain at gynhyrchiant gwell sydd yn ei dro yn arwain at arbed amser a chost i gleientiaid.
Mae rhaglen cymorth busnes Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru yn gweithio gyda miloedd o gwmnïau ar draws Cymru i helpu sefydlu busnesau newydd a hybu eraill i dyfu. Mae Antur Teifi yn darparu’r gwasanaeth busnes yma ar ran Llywodraeth Cymru ar draws y wlad o’r gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin.
Menter Gymdeithasol yw Antur Teifi – cwmni sydd yn dangos ymrwymiad clir i roi’r modd i fusnesau ffynnu a chyfrannu at economi sy’n tyfu. Mae 84 o bobl yn gweithio i’r cwmni, yn darparu gwasanaethau i gwmnïau preifat ac adrannau o’r Llywodraeth ar draws ystod o feysydd busnes yn cynnwys Deallusrwydd y Farchnad, Cynllunio Busnes ac Ariannu busnesau. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2015, fe gynhyrchwyd trosiant o £3.5m o’r gweithgaredd.
The business community is dominated by small companies making up 92% of registered businesses in the Teifi Valley. Whilst we deliver work throughout Wales, we believe we have a valuable contribution to make in supporting those small and growing businesses in the Teifi Valley not least by working in partnership with the Teifi Valley Growth Zone created as a result of the findings of the Task and Finish Group set up by Edwina Hart, the Welsh Government Minister for Economy, Science and Transport.
Antur Teifi is the official delivery partner for Start-Up Loans across throughout north and mid-west Wales. Many start-ups and small businesses often find it difficult to get a loan through traditional methods such as banks - as lending to SME’s is still a challenge for high street banks since the financial crisis.
A fyddech chi'n hoffi gwybod cyfrinachau Band Eang Cyflym Iawn a sut y gall fod o fudd i fusnesau yn eich hardal chi?
Seminar gan Fusnes Cymru ar gyfer perchnogion busnes a rheolwyr
Seminar a fydd yn helpu’ch busnes i gael y fantais fwya’ o’ch gallu i weithio’n ddwyieithog.